‘Rwyf yn sicr deilliodd fy atyniad at afonydd a’r pyllau gyfagos o’r oriau a dreuliais pan yn fachgen bach ger bron afon sy’n rhedeg drwy bentre fy mhlentyndod yng Ngogledd Cymru. Cofiaf ‘nghael fy hudoli gan yr wmbreth o brofiadau: synau cymleth dŵr yn rhedeg, siffrwd y dail yn y gwynt; y golau’n disgleirio’n chwaraegar ar wyneb y dŵr; yr amryw raddau o olau a lliwiau ar wely’r afon, a’r adlewyrchiadau bywiog o goed a chymylau ar ei wyneb. Oeddwn yno i ddal pysgod, ond yr awyrgylch fyfyrgar a grewyd gan yr ymgylchfyd swynol hon a’m denodd yn ôl, dro ar ôl tro.
Mae'r lluniau rhain yn ymdrech i gynrychioli y swyngyfaredd a theimlais ymysg y gydadwaith ddiflanedig ac amwys hon o olau a chysgod, y bas a’r dwfn, y caled a’r awyraidd, drwy arddangos bob elfen o’r brofiad weledol ar yr un wyneb: adlewyrchiadau yr agos a’r pell, cysgodion, gwely’r afon a’r lan.
Mae’n ymdrech hefyd i gyfleu arwyddocâd yr eiliadau gwerthfawr rheini a’r ffyrdd maent wedi atseinio drwy fy mywyd. Cymerwyd yr wyth ffotograff yn ystod cyfnod yr hâf, hydref a gaeaf 2019-2020, ar lannau yr afonydd Nedd, Nedd Fechan a Phyrddin yn Nê Cymru, tair afon sy’n atgoffâol o ymwelfannau fy mhlentyndod.