Dyma gyfres o ffotograffau sy’n cofnodi lleoliadau yn nhirwedd De Cymru gyda enwau Cymraeg arbennig; ceir enwau swreal a barddonol, eraill sy’n cyfeirio at ddigwyddiadau hanesyddol, ac eraill fyth yn enwau disgrifiol o’r llefydd. Erbyn hyn, mae’n amhosib darganfod sut eu henwid, pa fodd bynnag, datgelodd fy ymchwil fod nifer ohonynt yn debygol o gyfeirio at ddigwyddiadau hanesyddol rhai canrifoedd yn ôl. Yn ogystal, gan fod nifer o’r lleoliadau wedi bod yn dîr comin yn yr hen amser, mae’n bosib mai gan borthmyn ei henwyd, neu gan ffermwyr lleol a borai anifeiliaid yno, neu, yn ogystal, yn ôl arfer y gymuned agosaf.
Fe sylwch ymddengys y rhan fwyaf o’r lleoliadau yn “wag”, “di-nod” ac “anghyfanedd”. Pe basech yn cerdded drwy’r llefydd rhain, credwch ddim fod yn werth eu henwi. Yn wir, mae rhai ohonynt yn nodweddiadol oherwydd absenoldeb unrhyw dystiolaeth o gyffwrdd dynol. Mewn gwirionedd, allwch ddweud mai, erbyn hyn, eu henwau yw’r unig dystiolaeth o weithgaredd sy’n parhau. Yn ogystal, trawsnewidwyd rhai o’r llefydd yn ddiweddar, heb falio am, neu er gwaethaf am, eu henwau, gan goedwigoedd masnachol, er engrhaifft – ond, serch hynny, parheir yr enwau ar fapiau.
Ar y cyd, mae’r enwau yn weddillion ddisylwedd o hanes gymdeithasol, ddiwyllianol a gwleidyddol gyfoethog, cuddiedig. Bwriad y lluniau a’r ysgrifen ar y tudalennau dilynnol ydi i adfer ystyr y llefydd darfodedig rhain ac i wahodd y gwyliwr, gan hynny, i ailystyried ac ehangu ei syniadau am ble mae hanes yn “trigo”. Yn ogystal, ymysg yr ymchwil hanesyddol, y ddisgrifiadau a’r dyfaliadau, ceir agweddau o’r siwrne meddyliol ac emosiynol a brofais yn ystod gweithio ar y gyfres.
Mae agwedd bersonol ychwanegol i’r gyfres, hefyd. Efallai, gan fy mod wedi treilio fy mlentyndod mewn pentre bach yn Ngogledd Cymru, mae tirwedd wedi bod yn ran anatod o fy ngwaith creadigol, naill ai fel gwneithyrwr ffilm neu fel ffotograffydd, er i mi dueddu’n aml i wrthod confensiynnau clasurol sy’n arwain at olygfeydd “prydferth”, ddigamsyniol. Ynlle, gobeithiaf anog y gwyliwr, gyda chymorth teitl a’g ysgrifen, i ystyried pob un llun fel “cofnod ddogfennol” o weithgaredd sydd raid ei ddychmygu, yn hytrach na myfyrio’n oddefol wrth eu gwylio fel delwau aruchel, mawreddog, sydd tu allan i amser. Yn hyn o beth, mae’r gyfres yn gyfle i mi ymdrechu cyfleu cymlethder fy neimladau am, a fy nghyfathrach a, thirwedd. Hynny yw, gobeithiaf fod y gyfres yn cydnabod fod pob tirwedd yn un dynol a fod pob tirlun yn arwyddocâwr, nid yn unig o natur, o dîr ac yn y blaen, ond, yn ogystal, o atgof, absenoldeb, hanes – a’r dychmygol.